HAFAN | GWASANAETHAU | BETH MAE EIN CLEIENTIAID YN EI DDWEUD

 

Rydym wedi gweithio gyda a helpu nifer fawr iawn o bobl erbyn hyn.

 

“Dwi mor falch ac yn teimlo'n freintiedig iawn o fod wedi cael cychwyn ar y llwybr yma o ddarparu cefnogaeth i fy mab gyda Cain”.

“Mae fy mab yn cael sesiynau Therapi Iaith ers bron i 3 mis bellach. Ers y cychwyn, mae Cain wedi creu awyrgylch ac amgylchedd gyffyrddus ac ymlaciol i'r sesiynau gan ddarparu adnoddau amrywiol a deniadol. O ganlyniad mae parodrwydd fy mab i ymgymryd â'r sesiynau wedi bod yn arbennig ers y cychwyn. 

Mae Cain wedi creu perthynas gefnogol gyda ni fel teulu. Dwi'n teimlo'n gyffyrddus iawn yn trafod anghenion fy mab gyda hi, ac mae hi'n disgrifio gyda eglurder beth ydi'r ymarferion dwi angen eu gwneud rhwng pob sesiwn. Gallaf drafod gyda Cain yr anawsterau neu heriau rydym wedi ei brofi yn ystod yr wythnos, a chael arweiniad ar sut i geisio eu goroesi”.

BETHAN
BETHEL


“Mae Cain yn cynnal sesiynau hwyliog a diddorol. Mae hi yn broffesiynol ac yn amlwg yn brofiadol. Rydw i mor falch ein bod ni wedi dod o hyd i Cain. Mae hyder ein merch wedi datblygu lot o yn sgil sesiynau therapi, ac mae ei sgiliau cyfathrebu yn amlwg yn gwella. Diolch i ti Cain.”

LOIS
PORTHMADOG


“Roedd y cyfnod dreuliais i’n gweithio hefo Cain yn ddefnyddiol iawn i mi. Fel bachgen yn fy arddegau, doeddwn i ddim yn edrych ‘mlaen at gychwyn gweithio gyda therapydd lleferydd ond, o’r diwrnod cyntaf, fe wnaeth Cain i mi deimlo’n gyffyrddus gan sicrhau fod y sesiynau yn hwyliog. Dros gyfnod byr iawn fe wnes i ddysgu llawer o dechnegau sydd wedi galluogi i mi fagu hyder i siarad ag eraill gan fy mod i’n ynganu geiriau’n llawer cliriach erbyn hyn.”

BERIAN
NEFYN