HAFAN | GWASANAETHAU | BETH MAE EIN CLEIENTIAID YN EI DDWEUD

 

Therapydd Iaith a Lleferydd profiadol wedi'i lleoli yng Ngogledd-Orllewin Cymru sy'n arbenigo mewn gweithio gyda phlant ac oedolion ifanc.

 
CEG-Help.jpg

Rydym yn cynnig tri phrif wasanaeth:

IAITH, LLEFERYDD A CHYFATHREBU

Mae ein therapydd iaith a lleferydd arbenigol yn cynnig gwasanaeth unigryw i blant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed yng Ngwynedd a Môn yn eu cartrefi, meithrinfeydd, ysgolion neu golegau.

Mae cefnogaeth ar gael ar gyfer ystod eang o anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu, yn cynnwys y canlynol:

  • Awtistiaeth

  • Datblygiad iaith cynnar

  • Anhwylder iaith penodol

  • Anawsterau neu oediad lleferydd

  • Ffurfiau amgen o gyfathrebu

  • Atal dweud

  • Mudandod dethol

Cysylltwch â ni i drefnu sgwrs anffurfiol dros y ffôn neu Zoom i drafod unrhyw bryderon, cwestiynau neu ymholiadau.

 

ASESIAD

Rydym yn cynnig asesiad trylwyr o sgiliau iaith, lleferydd a chyfathrebu.  Yn aml mae hyn yn gyfuniad o asesiadau ffurfiol ac anffurfiol. 

Gallwn ddarparu adroddiad cryno neu adroddiad manwl yn dilyn asesiadau.


THERAPI

Mae sesiynau therapi fel arfer yn para hyd at awr, ac maent yn gallu cael eu cynnal yn wythnosol, bob pythefnos, neu yn fisol. Bydd amlder y sesiynau yn newid ac yn ddibynnol ar anghenion y plentyn neu berson ifanc.

Mae sesiynau therapi yn hwyliog ac yn gefnogol, wastad wedi’u seilio ar dystiolaeth, ac yn cymryd i ystyriaeth targedau a gweithgareddau sydd yn addas i’r plentyn neu berson ifanc.

DYSLECSIA

Mae cymorth arbenigol ar gael i unrhyw un; does dim rhaid i blant gael diagnosis o ddyslecsia cyn derbyn cymorth. Os oes gan y plentyn anawsterau yn gysylltiedig â dysgu, rydym ar gael i gynnig cymorth.

Rydym yn cynnig cymorth i oedolion sydd yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, dysgu neu astudio, er mwyn paratoi neu ddatblygu ymhellach yn y gweithle.

Mae cefnogaeth ar gael ar gyfer ystod eang o anawsterau sydd yn gysylltiedig â dyslecsia, yn cynnwys y canlynol:

  • Anawsterau gydag ymwybyddiaeth ffonolegol

  • Anawsterau darllen

  • Anawsterau sillafu

  • Sgiliau er mwyn bod yn fwy trefnus

  • Gwneud y gorau o gryfderau

Cysylltwch â ni i drefnu sgwrs anffurfiol dros y ffôn neu Zoom i drafod unrhyw bryderon, cwestiynau neu ymholiadau.

 

ASESIAD

Rydym yn cynnig asesiad o sgiliau llythrennedd unigolion. Yn aml mae hyn yn gyfuniad o asesiadau ffurfiol ac anffurfiol. 

Gallwn ddarparu adroddiad cryno neu adroddiad manwl yn dilyn asesiadau.


SESIYNAU 1:1

Mae sesiynau fel arfer yn para hyd at awr, ac maent yn gallu cael eu cynnal yn wythnosol, bob pythefnos, neu yn fisol. Bydd amlder y sesiynau yn newid ac yn ddibynnol ar anghenion y plentyn neu berson ifanc.

Mae’r sesiynau yn hwyliog ac yn gefnogol, wastad wedi’u seilio ar dystiolaeth, ac yn cymryd i ystyriaeth targedau a gweithgareddau sydd yn addas i’r plentyn neu berson ifanc.

HYFFORDDIANT

Mae modd creu a chynnal hyfforddiant pwrpasol ar gyfer eich gweithle yn ddibynnol ar yr hyn yr hoffech ei gyflawni.

Gall hyfforddiant staff ddigwydd mewn lleoliad sydd yn gyfleus i chi, a gall fod yn seiliedig ar ystod eang o bynciau, yn cynnwys:

  • Datblygiad iaith, lleferydd a chyfathrebu arferol

  • Sut i adnabod anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu

  • Sut i gefnogi anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu 

  • Sut i greu a chynnal amgylchedd sydd yn annog cyfathrebu

  • Sut i adnabod anawsterau llythrennedd

  • Sut i gynnal amgylchedd sydd yn annog cyfathrebu

  • Sut i gefnogi anawsterau llythrennedd

  • Sut i greu a chynnal amgylchedd sydd yn cefnogi anawsterau dyslecsig

  • Dyslecsia yn y gweithle.