
THERAPYDD IAITH A LLEFERYDD PROFIADOL O OGLEDD-ORLLEWIN CYMRU
Mae sesiynau therapi yn hwyliog ac yn gefnogol, wastad wedi’u seilio ar dystiolaeth, ac yn cymryd i ystyriaeth targedau a gweithgareddau sydd yn addas i’r plentyn neu berson ifanc.
YNGLŶN Â CEG
Mae Cain yn Therapydd Iaith a Lleferydd profiadol sydd wedi’i magu yng Ngogledd-Orllewin Cymru. Mae Cain yn arbenigo mewn gweithio gyda phlant a phobl ifanc, ac yn cynnig gwasanaeth gwbl ddwyieithog.
Mae Cain yn gymwys i asesu a chynhorthwyo unigolion dyslecsig.
“Dwi’n angerddol am gefnogi unigolion i fod yn ddysgwyr annibynnol ac i gyrraedd eu llawn potensial.”